gyntaf mewn trên. Cafodd Beryl ddigon o lonydd i feddwl.
Yr oedd Eric yn eu disgwyl ar orsaf Paddington, a phwy oedd gydag ef ond Nest! Ond nid lle i gofleidio a siarad a mwynhau cwmni ei gilydd oedd yr orsaf honno. Gosodai dieithrwch y lle ryw bellter rhyfedd rhyngddynt. Nid oedd llawer o amser ganddynt ychwaith. Yr oedd Mrs. Fraser yno gyda Nest, ac arni eisiau mynd yn ôl cyn gynted ag oedd modd. Yr oedd arnynt hwythau eisiau mynd ymlaen ar eu taith. Teimlai Beryl y buasai cystal ganddi fod heb weld Nest o gwbl na'i gweld felly.
Ar y cyntaf, yr oedd byw mewn fflat yn ofnadwy i Geraint ac Enid. Yr oedd y lle'n rhy gyfyng. Hiraethent am ryddid Maes— ycoed. Ni chaent fynd allan o gwbl ond yn eu dillad dydd Sul yng nghwmni Eric neu Beryl, a hwythau'n barod i redeg i mewn ac allan ar bob awr o'r dydd. Nid oedd dim i'w wneud ond edrych allan drwy'r ffenestr ar y stryd. Nid oedd llawer i'w weld yn honno,— dim ond pobl yn cerdded yn frysiog, ac ambell gart llaeth neu gart bara, a'r postman lawer gwaith yn y dydd.
Wedi mynd i'r ysgol, daethant i deimlo'n well, ond buont yn hir cyn dyfod i ddeall