Tudalen:Beryl.djvu/126

Gwirwyd y dudalen hon

hamgylchiadau. Ni wyddai pwy oedd ei chymdogion. Ni bu dim pellach na "Good Morning rhyngddi â neb ohonynt erioed. Weithiau, treuliai ddyddiau cyfain heb weled neb hyd nes i Eric a'r plant ddyfod adref. Ni bu mor unig yn ei bywyd. Profodd beth mor ofnadwy yw bod yn unig yng nghanol tyrfa.

Ni ddaeth i feddwl Eric nad oedd Beryl mor hapus ag yntau. Nid oedd byth yn grwgnach, yr oedd mor ofalus ag erioed am ei theulu, ac yr oedd y cartref newydd yn glyd iawn, os oedd yn fychan.

Dim ond ar nos Suliau yr aent i'r capel. Ni wnâi neb lawer o sylw ohonynt yno. Nid oedd gan Beryl gystal dillad ag oedd gan y rhan fwyaf o ferched eraill y gynulleidfa. Ni allai fforddio rhai newydd ychwaith am dipyn. Ymdrech barhaus oedd dyfod â'r ddeupen ynghyd eisoes. Gwyddai hi yn ei chalon yr edrychid i lawr arnynt gan bobl barchus y capel hwnnw, ond ni ddywedodd air am hyn wrth Eric.

Ni fynnai i'r plant fynd i'r Ysgol Sul. Caent ddigon o Saesneg yn yr ysgol bob dydd. Yr oedd sŵn Saesneg Lloegr ar eu hiaith eisoes. Siaradent Saesneg yn y tŷ, pe gedid iddynt. Ofnai Beryl iddynt anghofio'u hiaith eu