hunain. Felly caent ddarllen eu Beiblau Cymraeg ar y Sul, a dysgai hi hwynt ohono, a dywedyd ei ystorïau wrthynt.
Daeth yr haf. Lle hyfryd iawn oedd Caergrawnt ar y tymor hwnnw. Yr oedd y rhodfeydd hyfryd ar lan yr afon neu yn y parciau yn llawn o bobl mewn gwisgoedd heirdd. Ond pobl ddieithr oeddynt. Anaml y gwelent hwy neb i ddywedyd cymaint â "Nos Da" wrthynt.
Weithiau, aent allan gyda'i gilydd ymhell i'r wlad. Gwlad wastad, ffrwythlon, goediog, ydoedd, yn ymestyn am filltiroedd i bob cyfeiriad rhyngddynt â'r gorwelion. Mor wych ydoedd! Mor gyfoethog! Ond buasai dau ohonynt o leiaf yn fodlon rhoi'r prydferthwch i gyd am olwg ar un o fryniau moelion Cymru.
Daeth Nest atynt dros y Sulgwyn. Yr oedd yn dlysach ac yn fwynach nag erioed. Yr oedd dillad heirdd iawn amdani hefyd. Ymddangosai'r fflat yn llai o faint nag erioed, ac yn fwy tlodaidd ei olwg pan ddaeth Nest i mewn. Hyfryd oedd cyfarfod â'i gilydd eto.
Yr oedd Nest yn llawn cyffro. Yr oedd yn mynd i'r Eidal yn yr hydref, efallai am ddwy neu dair blynedd. Yr oedd Mrs. Mackenzie