Tudalen:Beryl.djvu/134

Gwirwyd y dudalen hon

"Eric bach! Sut y gallaf fi fyw yma fy hunan gyda'r plant? O ba le y daw bwyd inni?"

"Byddaf fi'n cael cymaint bedair gwaith o gyflog ag a gaf yn awr. Yr wyf yn mynd i drefnu bod tri chwarter o'm harian i'w talu i ti o'r Siop yma bob wythnos. Bydd gennyt, felly, gymaint dair gwaith ag sydd gennym yn awr at fyw, a bydd un yn llai yma i fwyta."

"O, Eric, bydd tri chwarter yn ormod. Ar beth y byddi di byw?"

"Bydd chwarter yn ddigon imi. Ni bydd dim arnaf i dalu am y fordaith. Byddaf yn cael fy mwyd a'm llety yn Buenos Aires. Dim ond dillad ac arian poced fydd eisiau arnaf. Yr wyf am i ti fod uwchlaw pryder o hyn allan."

"Buasai'n well inni fod wedi aros yng Nghymru, Eric, er gwaethaf popeth, a byw gyda'n gilydd i gyd yn ein cartref bach ym Maesycoed. Dyna a ddywedai Nest o hyd. Ac yn awr, dyma Nest wedi mynd, a thithau'n mynd eto."

"Beryl fach, oni bai inni ddod yma, ni byddai'r cyfle hwn wedi dod i mi. Pe buaswn wedi aros yn Llanilin, ni buaswn ar y gorau ond rhywun fel Mr. Harris neu Mr. Hywel—yn troi yn yr un hen gylch bach o hyd heb syniad