iaith ddieithr a siaradai, ni ddywedodd ddim am hynny. Gwylio curiad ei chalon a wnâi ef a rhoi cyfarwyddiadau eglur a phendant i Beryl i'w cario allan hyd oni ddeuai ef drachefn. Ni ofynnodd unwaith i Beryl a oedd yn blino, ond ar yr ail noswaith, daeth yno tua deg o'r gloch a dywedodd:
"Rhaid ichwi fynd i orffwys am ychydig." "O, yr wyf fi'n teimlo'n iawn, doctor. Gwell gennyf beidio â gadael Enid."
"Byddaf fi yma am awr neu ddwy. Galwaf chwi cyn mynd oddi yma. A fentrwch chwi adael Enid yn fy ngofal i?"
"Mentraf," ebe Beryl, yn ddibetrus, a gwenodd y doctor arni.
Pan ddihunodd Beryl, yr oedd yn bedwar o'r gloch. Yr oedd yn ofidus am ei bod wedi cysgu cyhyd, a dechreuodd ddywedyd hynny.
"Da gennyf eich bod wedi cael cysgu," ebe'r doctor, a mynd cyn iddi gael amser i ddiolch iddo.
Daeth tua'r un amser y nos ddilynol. Yr oedd honno i fod yn nos bryderus ynglŷn ag Enid, ond ni ddywedodd y doctor hynny wrth Beryl. Gwnaeth iddi hi fynd i'w gwely drachefn, ac ef ei hun a wyliodd ar hyd y nos. Bore drannoeth, pan gyfododd Beryl, yr oedd claf yn cysgu'n fwy naturiol nag y gwnaethai