XXIV
Nid yw'r nos—arwaf nos,
Yn difwyno glas y nefoedd.
—Elfed.
WEDI iddo fynd, bu Beryl am beth amser yn rhy syn i symud. Dr. Goronwy Wyn! Cymro ydoedd yn ddiddadl. A hithau wedi meddwl ei bod mor ddiogel gyda "Dr. Smith." Gan mai Cymro ydoedd, gwyddai mai Cymry oeddynt hwythau. Yr oedd Enid, wrth siarad cymaint yn ei chystudd, wedi gwneud cuddio hynny'n amhosibl. Newydd ddyfod i Gaergrawnt ydoedd. O ba le y daethai? Pwy oedd ei bobl ? Pa faint a wyddai o'u hanes hwy? Ar ddiwedd ei myfyrdod, gorfu i Beryl gyffesu wrthi ei hun fod yn dda ganddi, wedi'r cwbl, mai Cymro ydoedd! Daeth Caergrawnt yn fwy o gartref! Cafodd esboniad yn awr ar y teimlad angerddol a ddaethai drosti hyd yn oed pan welsai ef gyntaf,—rhyw deimlad fel yr un a lanwai fynwes "hwyad ryfedd Hans Andersen pan welodd yr elyrch ar y llyn.
Aeth wythnos heibio. Yr oedd Enid yn gwella'n gyflym. Deuai Dr. Wyn o hyd i'w gweld unwaith bob dydd. Siaradai Beryl ac yntau am bopeth ond am eu hunain a'u hanes. Ni ddangosodd Dr. Wyn y gwyddai