Tudalen:Beryl.djvu/144

Gwirwyd y dudalen hon

Ysgrifennodd y gweinidog ar unwaith at Mrs. Mackenzie i Lundain. Aeth y llythyr ar ei hôl i'r Eidal lle'r oedd yn awr gyda Nest. Gyrrodd Nest lythyr y gweinidog i Eric i Buenos Aires a'r llythyr hwn a'r hanes i Beryl.

Eisteddai Beryl â'r llythyr ar ei harffed, a'r dagrau'n llifo dros ei gruddiau. Y Stanley hwn a ddygasai'r fath ofid arnynt,—sarnu eu cartref, eu gyrru o'u gwlad a pheri eu bod yn ddirmygus yng ngolwg eu cymdogion. Oni bai amdano ef, gallasent fod eto'n hapus ym Maesycoed, yng nghanol eu cyfeillion a'u cydnabod. Daethai'r gofid a'r ymdrech a'r anghysur i gyd oherwydd drygioni'r bachgen hwn. Ond gwnaethai Stanley, wedi'r cwbl, fwy o ddrwg iddo’i hunan nag iddynt hwy. Gwell goddef cam na'i wneuthur, yn wir. Oni bai amdano ef, ni buasai Eric wedi cael y cyfle a gawsai, na'r plant ysgol ragorach y dref. Oni bai amdano ef, ni buasent wedi dyfod i Gaergrawnt. Gwridodd Beryl pan sylweddolodd fod byw yng Nghaergrawnt wedi troi'n sydyn yn beth hyfryd yn ei golwg.

Pan oedd yng nghanol ei myfyrdodau, a'r dagrau o hyd ar ei gruddiau, daeth sŵn cerdded ar y grisiau, a daeth y curo y disgwyliai amdano bob dydd ar y drws, a daeth Dr. Wyn i mewn.