Tudalen:Beryl.djvu/146

Gwirwyd y dudalen hon

"Gwelais yr ofn ar eich wyneb, a dyma fi wedi bod am wythnos heb wybod yr achos! Dyn amyneddgar wyf! Ond, Llanilin! Yr wyf yn siwr bod fy ewythr yn eich adnabod."

"Eich ewythr?

Ie, fy ewythr Goronwy. Mr. Ifan Goronwy.

"O! Nid Mr. Goronwy o America! "Ie, Mr. Goronwy o America, brawd fy mam.

"O, dyna beth od! Bu yn ein tŷ ni unwaith. Y mae chwe blynedd oddi ar hynny, —chwe blynedd i'r mis nesaf, cyn i'n gofid mawr cyntaf ddyfod arnom."

"Peth od arall yw ei fod wedi bod yn sôn llawer amdanoch fel teulu yn ddiweddar, ac yn enwedig am eich mam. Yr oedd ef a hithau'n blant gyda'i gilydd, mae'n debyg. Beth oedd enw eich mam?"

"Elen."

""Len' yw ei enw ef arni, 'rwy'n meddwl. Sôn am Len a'i theulu' y mae o hyd, nid 'Mr. a Mrs. Arthur a'u teulu," felly ni feddyliais i mai am eich teulu chwi y siaradai. Ni soniais i wrtho fy mod yn adnabod teulu o Gymry yma. Buasai ef yn sicr o gymryd diddordeb ynoch, a holi eich enw ac o ba le y daethoch. Nid oeddwn am iddo