holi nes imi fedru ei ateb, ac nid oeddwn am eich holi chwi cyn yr amser. Mae yn sôn am fynd i weld "Len a'i theulu " cyn hir. Bydd yn synnu pan glyw fod tri o'r teulu yma yn ei ymyl."
Ni ŵyr, ynteu, fod nhad a mam wedi marw?"
Na ŵyr. Wedi iddo ddyfod yn ôl o Gymru y tro hwnnw, cafodd ei daro'n wael iawn. Yr oeddwn i newydd fynd i'r coleg i Edinburgh ar y pryd. Aeth fy mam i America i weini arno. Ef oedd ei hunig frawd. Bu ef yn wael am dair blynedd. Cyn iddo lwyr wella, aeth fy mam yn wael a bu hi farw yno. Oddi ar hynny y mae fy ewythr wedi ceisio llanw lle tad a mam i mi, ac yr wyf finnau'n teimlo fel mab iddo yntau."
"A gydag ef yr ydych chwi'n byw?"
Ef sydd yn byw gyda mi. Daeth yma o America fis yn ôl. Ei fwriad yw mynd i Gymru i fyw,—efallai i Lanilin, ei hen ardal. Ac yn awr, Beryl, yr wyf am ddod ag ef yma i'ch gweld chwi."
Pan ddaeth Mr. Goronwy, a dal ei llaw yn dynn ac edrych yn ddwys i'w llygaid, teimlai Beryl fel y ferch un ar bymtheg oed honno ym Modowen, wedi ei chastellu â chariad ag anwyldeb. A dyma'r geiriau a glywodd: