Tudalen:Beryl.djvu/15

Gwirwyd y dudalen hon

"Druan ag Ifan!" ebe Mrs. Arthur, a darllen y llythyr,—" Byddaf yn hwylio bore Iau. Gan fod yn rhaid imi ddyfod i Lanilin, hoffwn eich gweld, os yw hynny'n bosibl. Dof heibio beth bynnag, rywbryd yn y prynhawn." "Gan mai bore Iau yr hwylia, efallai y gallai aros yma heno," ebe Mr. Arthur.

"O ie, bid siwr, rhaid inni beri iddo aros. Bydd gennym ein tri lawer iawn i adrodd wrth ein gilydd. Wn i sut mae'r blynyddoedd wedi ymddwyn tuag ato! Druan ag Ifan!"

"Y mae'n gyfoethog, beth bynnag. Y mae ei fodur a'i yrrwr gydag ef yn y wlad hon. Efallai ei fod yn filiynydd. Pwy a ŵyr? Rhaid ichwi beidio â dweud 'Druan ag Ifan! o hyd."

Meddwl amdano fel yr oedd ugain mlynedd yn ôl wyf fi. Y mae'n anodd meddwl amdano'n ddyn pwysig a chyfoethog."

Meddwl amdanom ninnau fel yr oeddem y pryd hwnnw y mae yntau, yn ddiau. Yr wyf yn edrych ymlaen gyda phleser am ei weld a chael ymddiddan ag ef."

****

Pan ddaeth Nest adref o'r Ysgol Elfennol, ac Eric a Beryl o'r Ysgol Sir, mawr oedd eu syndod o weld modur mor ardderchog ei olwg