"Bydd Geraint ac Enid gyda chwi ar ôl i ni eich gadael," ebe Beryl.
Symudodd Nest yn nes at ei mam, cydiodd yn ei braich, a rhoi ei phen euraid i bwyso arni.
"Diolch nad oes eisiau meddwl am flynyddoedd eto am iddynt hwy, eu dau fach, ein gadael," ebe'r fam.
"Ie," ebe Mr. Arthur, "peidiwch chwithau eich tri â rhoi gormod o'ch meddwl ar ddod yn fawr, yn bwysig, ac yn gyfoethog. Y mae mwy o eisiau meddwl am fod yn dda, yn ddefnyddiol, yn siriol ac yn garedig, pa le bynnag y byddoch. Y peth pwysig yw medru byw i fod o les yn y byd, a gwneud ein dyletswydd tuag at bawb. Y mae pobl dlawd a dinod yn aml yn bobl dda ac yn bobl hapus hefyd."
"Ond os byddwn ni'n glefer ac yn gyfoethog, bydd gennym fwy o gyfle i wneud daioni yn y byd," ebe Eric wedi meddwl tipyn.
"Efallai hynny," ebe'r tad.
"Ac ni hoffech chwi ddim inni aros gartref nac aros yn yr ardal hon o hyd," ebe Beryl.
Na," ebe'r tad. "Credaf y dylai pob plentyn gael ei gyfle i ymladd ei ffordd trwy'r byd ei hunan, heb ddibynnu ar ofal