VI.
Ar y ffordd rosynnog honno
A gerddasom hanner oes,
Ryw brynhawn ymhlith y blodau
Gwelwn drom a garw groes.
—EIFION WYN.
EISTEDDAI Beryl ymhlith eraill yn ysgol Tregwerin yn ysgrifennu ei phapur olaf yn arholiad y Matriculation. Ysgrifennai'n gyflym, fel petai hi mewn brys i orffen. Weithiau codai ei phen a syllu o'i blaen yn fyfyriol, a gwên ar ei hwyneb. Gwyddai ei phwnc yn dda, a gallai fforddio ambell funud felly, ac yr oedd ganddi lawer o bethau hyfryd i feddwl amdanynt.
Ymhen rhyw hanner awr arall byddai ei thymor yn yr Ysgol Sir ar ben. Dyna un cyfnod mewn bywyd wedi ei fyw! Yr oedd wythnosau hir o wyliau o'i blaen, ac yna'r Coleg. Nid oedd amheuaeth yn ei meddwl na byddai'n llwyddiannus yn yr arholiad. Yr oedd wedi bod trwy lawer arholiad erbyn hyn heb fethu unwaith, ac yr oedd y cwestiynau eleni'n hawdd iddi hi. Dyna felys a fyddai tymor hir o seibiant ar ôl astudio caled!