Tudalen:Beryl.djvu/35

Gwirwyd y dudalen hon

Edrychodd ar y cloc. Yr oedd eto ddeng munud cyn pedwar o'r gloch,—amser gorffen. Aeth ymlaen yn ddistaw at ddesg yr athro.

'Da iawn!" ebe'r athro. "Dyna'r gwaith ar ben. Y mae rhywun tu allan am eich gweld, ond yr oeddwn am ichwi orffen eich gwaith cyn mynd. Y mae hwn yn arholiad pwysig. Drwg gennyf na allaf adael yr ystafell a dyfod allan gyda chwi. Ffarwel!"

Ysgydwodd law â hi'n gynnes ac edrych yn ddwys arni fel o'r blaen. Beth oedd yn bod? Ni allai Beryl aros i holi. Ni chaniateid siarad yn ystafell yr arholiad, ac yr oedd yr athro fel pe'n ei gyrru allan. Crynodd ei chalon.

Yr oedd Miss Prys, yr athrawes, yn disgwyl amdani tu allan i'r drws. "Beryl fach!" ebe hi. "Y mae un o'ch cymdogion â'i gerbyd allan ar yr heol yna wedi dyfod i'ch hôl."

"I'm hôl i? Beth sydd yn bod?" ebe Beryl yn gyffrous.

O, yr oedd yn digwydd mynd heibio ac arhosodd ichwi. Y mae,—peidiwch â chael braw, Beryl fach,—eich tad sydd yn sâl."

"Nhad! O, yr wyf yn siwr fod rhywbeth wedi digwydd."