Mynnai Beryl i'r Nadolig cyntaf hwnnw ym Maesycoed fod mor debyg ag oedd bosibl i Nadolig ym Modowen. Pan ddaeth Let yno ychydig cyn amser cinio, Beryl ei hun oedd yn y tŷ. Aethai Eric a Nest a Geraint ac Enid i'r Gymanfa Bwnc yng nghapel Bryngwyn. Yr oedd tân siriol yn y drawing-room a'r piano'n agored. Ar y silff ben tân ac ar ben rhai o'r darluniau ar y wal yr oedd brigau o gelyn coch, ac ar y ford fach yn y cornel yr oedd dysgl hardd yn llawn o afalau ac orennau. Yn y gegin yr oedd y ford wedi ei hulio'n barod at ginio,—mor ofalus â phe disgwylid y cwmni mwyaf urddasol yno.
"Beth gaf fi ei wneud i'ch helpu, Beryl fach?" ebe Let.
"Ymwelydd ydych chwi heddiw," ebe Beryl. "Chwi sydd wedi bod yn gweini arnom ni am amser hir, ni sydd i weini arnoch chwi heddiw."
Ni chafodd Let amser i ddadlau, oherwydd daeth y plant adref o'r capel. Gorfu i Let fynd gyda hwy'n ufudd at y tân, hyd oni byddai Beryl yn barod i'w galw i gyd at ginio.
Yr oedd tri o blant yn y fferm lle y gwasanaethai Let, a phlant bach digon afreolus oeddynt. Ar brydiau bwyd, nid oedd ôl na dysg na threfn arnynt. Byddai eu mam,