fynychaf, yn rhoi eu bwyd iddynt hwy o flaen pawb eraill, er mwyn cael tawelwch. Ymosodent arno ar unwaith. Eisteddent a bwytaent rywsut.
Codent ac aent allan weithiau cyn i neb arall orffen.
Gwahanol iawn oedd teulu Beryl. Yr oedd pryd bwyd ym Maesycoed yn fath o sacrament brydferth. Synnodd Let at y gweddeidd-dra a ddysgasai Beryl hyd yn oed i Geraint ac Enid. Synnodd fwy fyth at y ginio ragorol a baratoesai. Gellid meddwl ei bod wedi hen arfer â'r gwaith o baratoi bwyd.
Nid oedd yn bosibl na ddeuai atgofion atynt ar ddydd fel hwnnw.
"A ydych yn cofio blwyddyn i heddiw?" ebe Nest yn sydyn.
Nid atebodd neb ar unwaith, ond dywedodd Let mewn hanner ochenaid:
"Mhlant bach i!"
"Mae Dadi a Mami yn ein gweld ni, ond wedi mynd yn rhy bell i ni eu gweld hwy," ebe Geraint.
Yr oedd Geraint wedi cofio'r geiriau a ddywedasai Beryl wrtho ers llawer dydd.
Daethant yn siriol eto wrth dorri'r pwdin. Edrychodd Beryl yn ofalus trwy gyfran Geraint ac Enid, rhag bod y darn tair ynddo ac iddynt hwythau ei lyncu. Ond Eric a'i cafodd.