"Hwre!" ebr ef, a dal y darn arian rhwng ei fys a'i fawd.
"Hwre!" ebe Geraint ac Enid.
"Eric sydd yn mynd i gael y lwc," ebe Nest. "Mae e'n haeddu lwc," ebe Let.
"Hwre!" ebe Eric eto, a dim ond hynny. Ni wyddai neb beth oedd yn ei feddwl.
"Beryl fach," ebe Let, pan oeddynt hwy eu dwy yn y gegin ar ôl te, "mae'n dda gen i'ch gweld mor gysurus. Y mae gofalu am y plant yma, eu dysgu, a chadw cartref yn well ac yn uwch gwaith na dim a allech ei wneud mewn coleg. Yr ydych fel mam iddynt, ac y maent i gyd mor ufudd ichwi ac mor barchus ohonoch."
"Hynny sydd yn ei gwneud yn bosibl imi fod yma," ebe Beryl, a'i llygaid yn llawn. "Pe na bai gennyf ddylanwad arnynt, torrwn fy nghalon."
"Os yw'ch tad a'ch mam yn eich gweld, maent yn dweud, 'Da iawn, Beryl fach,' bob dydd."
Wylodd Beryl yn hidl, ac wylodd Let gyda hi. Ond dagrau melys oeddynt, ac y mae'n dda, weithiau, cael cwmni i wylo.