Tudalen:Beryl.djvu/80

Gwirwyd y dudalen hon

XIV.

Ti gei
Yn ôl yr hyn a wnei :
Os bydd
Dy daith i'r dydd, y dydd a gei.
—ELFED.

Bов prynhawn Sadwrn, pan fyddai'r tywydd yn braf, byddai Beryl a Nest a Geraint ac Enid yn mynd allan am dro hyd bentref Bryngwyn. Yno prynai Beryl fwyd ar gyfer yr wythnos ddilynol. Yr oedd milltir o ffordd o Faesycoed i'r siop. Yr oedd hi ar ben pellaf y pentref. Aent heibio'r ysgol a'r capel i fynd tuag yno.

Un prynhawn ym mis Ebrill, yn lle mynd i Fryngwyn, cerddodd y pedwar i'r dref. Yr oedd eisiau esgidiau ar Geraint ac Enid, am fod y rhai a oedd ganddynt wedi mynd yn rhy fach iddynt. Tyfai'r ddau'n gyflym.

Hwnnw oedd y tro cyntaf i'r ddau fach fod yn Llanilin. Gwelsant lawer o ryfeddodau yno. Mynnent aros i edrych ar bob siop.

Yr oedd yno un siop esgidiau fawr. Nid siop gymysg o ddillad, esgidiau, bwyd, a phob math o beth arall ydoedd. Dim ond esgidiau a werthid ynddi. Yr oedd yno ddigon o gadeiriau fel y gallai'r prynwyr eistedd tra fyddent yn treio'r esgidiau. Yr oedd pedair