o ferched ieuainc mewn dillad duon yno i helpu pobl i ddewis eu hesgidiau, a hyd yn oed eu helpu i'w gwisgo.
Tynnodd Geraint ac Enid sylw pawb yn y siop. Yr oeddynt wedi eu gwisgo mor bert y prynhawn hwnnw, ac yr oeddynt mor iach eu golwg ac mor lân. Oni bai am eu dillad gwahanol, ni ellid adnabod un oddi wrth y llall. Yr oedd pennau cyrliog y ddau, a'u hwynebau, yr un fath yn union.
"O, dyma ddau fach annwyl!" meddai'r ferch a weiniai arnynt.
Edrychai pob un o'r merched eraill yn garuaidd arnynt wrth fynd yn ôl ac ymlaen yn brysur gyda'u gwaith. Adwaenai rhai ohonynt Beryl a Nest, a gwyddent eu hanes. Cyn iddynt fynd, daeth perchen y siop ei hun atynt i siarad â'r pedwar ac i holi eu hynt. Dywedodd yr adwaenai eu tad a'u mam yn dda. Rhoes swllt bob un i Geraint ac Enid, a dywedodd wrthynt am brynu rhywbeth cyn mynd adref.
"Dyna ddyn neis!" ebe Nest wedi mynd allan.
"Ie'n wir, dyn neis iawn," ebe Beryl.
"Wyddost ti beth sydd wedi dod i'm meddwl?" ebe Nest eto. "Mi hoffwn gael lle yn y siop yna ar ôl gadael yr ysgol."