Tudalen:Beryl.djvu/85

Gwirwyd y dudalen hon

XV.

Gorau arf, arf dysg.

—HEN DDIHAREB.

DAETH yn bryd i Geraint ac Enid fynd i'r ysgol. Yr oedd yn anodd gan Beryl feddwl eu gadael o'i golwg, ond yr oedd am iddynt ddechrau mynd i'r ysgol tra fyddai Nest yno. Felly, wedi llawer o baratoi, cafodd y ddau fach fynd un bore Llun ym mis Mai.

Aeth Beryl i hebrwng y tri hyd dro'r ffordd, yna safodd nes iddynt gyrraedd y tro arall a throi'n ôl i ysgwyd dwylo arni cyn mynd o'r golwg. Yna aeth yn ôl ei hun i'r tŷ.

Cafodd ddigon o amser i feddwl yn ystod y dydd hwnnw. Dyna'r dydd hwyaf a dreuliodd erioed. Cofiai dôn a geiriau ei mam y noson honno ym Modowen pan siaradent hwy eu tri,—Eric a Nest a hithau,—yn eu hafiaith am yr hyn y bwriadent ei wneud yn y byd, a'r teithio gogoneddus oedd o'u blaen. Ie, tebyg mai gadael eich tad a minnau a wnewch i gyd ryw ddiwrnod," oedd geiriau lleddf y fam. Yr oedd yr un profiad i ddyfod iddi hithau. Yr oedd eisoes wedi dechrau dyfod. Mynd ymhellach oddi wrthi bob dydd mwy a wnâi ei phlant bach. Tyfent, crwydrent,