aent o gyrraedd ei dylanwad. Efallai na byddai ei heisiau hi arnynt. Dechreuodd Beryl wybod am yr ing sydd yng nghlwm wrth gariad.
"O dir!" ebe hi wrthi ei hun, yr wyf yn edrych yn rhy bell i'r dyfodol ac yn mynd o flaen gofid. Ni chaf fy ngadael am flynyddoedd eto.
Y pwnc imi yn awr yw fy ngwneud fy hun yn barod erbyn y daw hynny i ben. Y mae gennyf amser. Oni wnaf ddefnydd da ohono, arnaf fi y bydd y bai."
Felly, ar brynhawnau hyfryd yr haf hwnnw, cariai Beryl ei llyfrau a'i chadair i gornel uchaf yr ardd, o dan y pren cnau ceffylau, a darllenai ac astudiai. Darllen ei hoff lyfrau a wnâi yn y Gymraeg a'r Saesneg,—Gweithiau Ceiriog, Caniadau Cymru, Cerrig y Rhyd, Sioned, Gwilym a Benni Bach, Kenilworth, Ivanhoe, ac eraill. Yn y Ffrangeg, ail astudiodd yn ofalus bob un o'i llyfrau ysgol. Carai ddyfod i fedru siarad Ffrangeg yn gywir, a'i darllen yn ddidrafferth.
Daliodd Eric hi ar ganol ei hastudio un prynhawn wedi dyfod adref yn gynt nag y disgwyliai hi ef. Yr oedd Eric wedi tyfu llawer yn ddiweddar. Ymffrostiai ei fod yn dalach na Beryl. Yr oedd ei lais hefyd yn troi o fod yn llais plentyn i fod yn llais dyn.