BERYL
I.
Onid yw'r meddwl ambell dro,
Yn mynd o flaen ei awr?
Gan ddal ar ryw yfory sydd
Heb eto ddod i wawr?
—ELFED.
LLE hyfryd i fyw ynddo oedd Bodowen. Safai ar lethr, tua lled cae o'r ffordd fawr sydd rhwng Tregwerin a Llanilin. Y mae gwlad hardd iawn yn y rhan hon o Gymru. Dolydd teg a bryniau coediog a welir ar bob llaw; a'r Afon, sydd yma bron ar ddechrau ei gyrfa, yn siriol redeg trwy'r gwastadedd obry.
Yr oedd y tŷ ei hun a phopeth o'i gylch yn hardd iawn hefyd. Yr oedd lawnt eang o'i flaen, a blodau, a choed byth-wyrdd, a llwybrau glân, a meinciau. Muriau o gerrig glas oedd iddo, a'i ffenestri yn rhai bwâog mawr. Pan welai pobl ddieithr ef o'r ffordd fawr, gofynnent, "Plas pwy yw hwn'na?" Edrychai yn union fel plas bychan. Y Parch. Owen Arthur, gweinidog Brynilin a'r Wern, a'i deulu, oedd yn byw ynddo.
Yr oedd mis Mai yn bythefnos oed, ond er hynny, chwythai awel oer o'r dwyrain nes gwneud tân yn felys fin hwyr. Felly y teimlai