XVI.
A'i gwallt fel banadl melyn,
A rhosyn oedd ei gwên.
—WIL IFAN.
NID i'r siop esgidiau yr aeth Nest wedi'r cwbl, ond i'r Ysgol Sir i Lanilin. Pan welwyd fod enw Nest Arthur ymhlith y rhai a enillasai Ysgoloriaeth o ysgol Aelybryn, bu dadlau brwd ar aelwyd Maesycoed. Eric oedd dyn y teulu, ac ef, gan hynny, meddai ef, a wyddai beth oedd orau er lles Nest.
"Ond, Eric bach, y mae eisiau imi ennill arian, ac y mae'n well gennyf fynd i siop esgidiau na mynd i'r ysgol," ebe Nest.
"Chei di ddim mynd i siop esgidiau nac i un siop arall," ebe Eric. "Ni fyddi di ddim yn neb byth os dechreui di mewn siop, a thithau heb gael dim addysg. Y dyddiau hyn, ar lawr y mae pawb sydd heb addysg."
"Yr wyt ti'n siarad fel dyn profiadol," ebe Nest.
"Fi yw dyn y teulu," ebe Eric.
"Eric sydd yn iawn, Nest fach," ebe Beryl. "Cofia am y pwys a roddai 'nhad ar addysg."