Aeth Beryl allan ar unwaith at y cerbyd i wahodd y ddwy i'r tŷ. Yr oedd yn dda ganddi fod Nest a hithau yn eu dillad dydd Sul. Cymraes oedd Mrs. Mackenzie, ond Saesnes oedd Lady Rhydderch; felly, yr oedd yn rhaid siarad yn Saesneg. Edrychai'r ddwy yn syn ar Beryl. Synnent at ei thawelwch hunan-feddiannol. Fynychaf, pan siaradent hwy â phobl yr ardal, gwelent wylltu a gwrido. Arweiniodd Beryl hwy i'w thŷ, a gwahoddodd hwy yn dawel a moesgar i eistedd, fel petai'n hollol gyfarwydd â throi ymhlith pobl o'u safle hwy. Yr oedd ei Saesneg hefyd cystal â'u Saesneg hwythau. Edmygai'r ddwy hi. Yna daeth Nest i mewn.
"Ah! This is the young lady who charmed us all with her singing," ebe Lady Rhydderch, ac ysgydwodd y ddwy ddwylo â hi.
Yna dywedodd Lady Rhydderch:
"This is my dearest friend, Mrs. Mackenzie, of London. She wished me to bring her here to see you. Now she can speak for herself."
Yna dywedodd Mrs. Mackenzie ei neges. Yr oedd Syr Tomos a Lady Rhydderch a hithau yn yr Eisteddfod, a swynwyd hwy gan ganu Nest. Teimlent fel y beirniad, y dylai llais mor ardderchog gael ei drin a'i ddatblygu. Byddai'n golled i Gymru ac i'r byd oni wneid