Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/13

Gwirwyd y dudalen hon

Cyfradd treth incwm Gymreig

33. Gan ddibynnu ar ganlyniad refferendwm yng Nghymru ar gyflwyno cyfradd treth incwm Gymreig, bydd prif gyfraddau treth incwm y DU yn cael eu lleihau o 10c i rai a ddiffiniwyd fel trethdalwyr yng Nghymru, a bydd y Cynulliad yn gallu gosod, yn flynyddol, cyfradd treth incwm Gymreig newydd fydd yn cael ei hychwanegu at y cyfraddau llai ar gyfer y DU. Bydd gweddill y strwythur treth incwm yn aros yn fater na fydd wedi’i ddatganoli, ac yn parhau i gael ei benderfynu gan Senedd y DU.

34. Er bod Comisiwn Silk wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gallu gosod cyfraddau treth incwm Cymreig ar wahân ar gyfer pob un o’r tri band, barn y Llywodraeth yw mai un gyfradd Gymreig ar gyfer y tri band (fel sy’n cael ei chyflwyno yn yr Alban) yw’r system fwyaf priodol i Gymru.

35. Mae’r Llywodraeth yn credu’n bendant bod y strwythur treth incwm yn ddull allweddol o ailddosbarthu cyfoeth ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, a dyma pam mai ar lefel y DU y dylid penderfynu orau sut ddylai’r system hon symud yn ei blaen. Mae cynnwys y system ‘cydgerdded’ hefyd yn gyson â’r egwyddor na ddylai datganoli ariannol elwa un rhan o’r DU ar draul rhan arall – gallai hyn ddigwydd pe bai Llywodraeth Cymru’n gallu gosod cyfradd sylweddol is ar gyfer trethdalwyr uwch / ychwanegol heb fod angen newid y gyfradd sylfaenol (gan felly ddenu pobl sy’n ennill mwy i groesi’r ffin, gan elwa Cymru ar draul y DU yn gyffredinol).

36. Barn y Llywodraeth, felly, yw bod y system cyd-gerdded yn sicrhau’r manteision allweddol sydd mewn golwg gan y Comisiwn (gan roi hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru ar drethi a gwariant, a chynyddu hefyd ei hatebolrwydd am ariannu ei gwariant) ond eto’n cadw strwythur ailddosbarthu sy’n gyson ar draws y DU a lleihau unrhyw risg gysylltiedig o gystadlu trethi.

37. Bydd grant bloc Llywodraeth Cymru’n cael ei leihau i adlewyrchu’r pwerau newydd hyn i godi refeniw, yn defnyddio’r dull tynnu wedi’i fynegeio sy’n cael ei argymell gan Gomisiwn Silk. Rhoddir y manylion o baragraff 52 isod ymlaen. Yn dilyn pleidlais refferendwm o blaid datganoli treth incwm yn rhannol, bydd y Trysorlys yn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar ddyddiad i gyflwyno cyfradd treth incwm Gymreig.