Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/16

Gwirwyd y dudalen hon

ystyried a oedd elfen Cymru, Lloegr neu’r Alban o ddyled treth incwm wedi’i thalu. Felly hefyd, ni fyddai unrhyw log a delir gan HMRC i drethdalwyr oherwydd gordaliad treth yn cael ei godi ar Lywodraeth Cymru.

46. Mae HMRC hefyd yn gweinyddu nifer o gosbau i'r pwrpas o atal a diogelu system drethi’r DU. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft, cosbau am dalu’n hwyr (ar ben y llog a godir am dalu'n hwyr), ffeilio'n hwyr a ffurflen dreth anghywir, a'u bwriad yw annog trethdalwyr i gwrdd â’u hymrwymiadau o ran llenwi ffurflenni treth neu dalu trethi sy'n ddyledus. Mae’r refeniw a gronnir o’r cosbau hyn, felly, yn gysylltiedig â gweinyddu’r system drethi gan HMRC ac ni fyddai'n cael ei ddyrannu i Lywodraeth Cymru.

Treth incwm ar gynilion a dosbarthiadau

47. Ni fyddai’r gyfradd Gymreig yn cael ei chymhwyso i incwm o gynilion a difidend. Mae Comisiwn Silk wedi cydnabod bod y newidiadau y byddai angen eu gwneud i gymhwyso'r gyfradd Gymreig i dreth incwm ar gynilion a dosbarthiadau’n afresymol. Byddai’r gyfradd Gymreig felly’n cael ei chymhwyso i incwm di-gynilion a di-ddifidend (NSND) trethadwy.

Y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a HMRC

48. Mae’r Comisiwn wedi nod bod angen perthynas ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad a HMRC, oherwydd un o swyddogaethau HMRC fyddai casglu’r gyfradd treth incwm Gymreig. Byddai’r berthynas rhwng HMRC a Llywodraeth Cymru ar dreth incwm yn cael ei gosod allan mewn Memorandwm Dealltwriaeth, a fyddai’n cael ei gyhoeddi cyn gweithredu. Byddai hefyd angen Memoranda ar wahân i ddiffinio'r berthynas rhwng HMRC a Llywodraeth Cymru ar y trethi oedd i’w datganoli'n llawn.

49. O dan y Bil, rhaid i'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol gynhyrchu adroddiad blynyddol i’r Cynulliad ar weinyddiaeth HMRC o’r gyfradd Gymreig. Byddai HMRC hefyd yn cynhyrchu detholiad o’u cyfrifon ar gyfer y Cynulliad, yn dangos yr incwm a’r gwariant oedd yn gysylltiedig â’r gyfradd treth incwm Gymreig.

50. Byddai Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol yn HMRC yn benodol atebol am gasglu’r gyfradd treth incwm Gymreig. Byddai’r Swyddog