Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/26

Gwirwyd y dudalen hon

gellir ei ddefnyddio i dalu am wariant cyhoeddus ychwanegol ar faterion datganoledig.

82. Rhaid i’r gronfa wrth gefn gael ei chadw gyda Llywodraeth y DU a bydd yn gweithredu ar wahân i'r system cyfnewid cyllidebau.

Pwerau benthyca presennol

83. Mae Bil Cymru’n rhoi hyd at £500 miliwn o bwerau benthyca presennol i Weinidogion Cymru, pwerau y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu iddynt fod ar gael ochr yn ochr â threthi datganoledig o fis Ebrill 2018 ymlaen. Mae’r trothwy hwn yn aros yr un fath â’r hyn a osodwyd yn GOWA 2006 ac ar wahân i’r trothwy benthyca cyfalaf £500 miliwn newydd (ac ni fydd yn bosibl cyfnewid rhwng y ddau). 84. O fewn y trothwy cyffredinol, mae Trysorlys EM wedi cytuno y gall Llywodraeth Cymru fenthyca hyd at £200m y flwyddyn (o 2018-19 ymlaen).

85. Mae pwerau Llywodraeth Cymru’n cael eu hehangu i gynnwys benthyca cyfredol ‘canol blwyddyn’ ac ‘ar draws blynyddoedd’. Er y bydd y Llywodraeth yn parhau i gael trafodaethau â Llywodraeth Cymru ynghylch yr union drefniadau ar gyfer rheoli arian parod, mae Bil Cymru’n darparu fel a ganlyn:

  • benthyca cyfredol canol blwyddyn - o dan Fesur Cymru mae

Llywodraeth Cymru’n cael cadw ei phwerau benthyca canol blwyddyn, lle gall Gweinidogion Cymru fenthyca o’r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol (NLF) drwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru fel bod gan Gronfa Gyfunol Cymru (WCF) falans gweithio neu i reoli refeniw ansefydlog canol blwyddyn (lle mae’r incwm gwirioneddol yn wahanol i’r refeniw oedd wedi’i ddarogan am y mis hwnnw); a

  • benthyca cyfredol ar draws blynyddoedd - i ddelio â’r

gwahaniaeth rhwng refeniw darogan blwyddyn lawn a'r refeniw terfynol ar gyfer trethi datganoledig, mae Bil Cymru hefyd yn rhoi hawl i Lywodraeth Cymru fenthyca o'r NLF drwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar draws blynyddoedd. Rhaid addalu’r benthyca 'ar draws blynyddoedd' hwn o fewn 4 blynedd.