HYSBYS Y DENGYS Y DYN
FFOP: Ni phaid dy wedd â datgan y gyfrinach Fod clamp o epa rywle yn dy linach. CLOP: Mae'n bosibl, er nas tybiem wrth dy lun, Fod un o'th hen gyndeidiau dithau'n ddyn.