Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/13

Gwirwyd y dudalen hon

Cartrefi'r Hen Gymry.

NID oes dim mwy dymunol i ni nag olrhain ein teulu, a holi pwy oedd ein teidiau a'n neiniau, ein hen deidiau a'n hen neiniau, a pha fath ar bobl oeddynt, a sut yr oeddynt yn byw, a beth ydoedd eu credo, ac am ba bethau y meddylient. Ffurf arall ar y diddordeb hwn yw ein diddordeb yn ein cenedl, ac nid oes yr un ohonoch heb fod yn awyddus i wybod sut bobl oedd yr hen Gymry gynt, beth oedd eu dull o fyw, sut dduwiau oedd ganddynt, â pha genhedloedd yr oeddynt yn gyfeillgar, ac â pha genhedloedd yr oeddynt yn elynol.