Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/14

Gwirwyd y dudalen hon

Eu gwaed hwy sy'n rhedeg yn ein gwythiennau ni, a chawn esboniad ar lawer nodwedd a berthyn i ni, llawer gwendid, a llawer cryfder, ond i ni wybod sut bobl oedd yr hen Gymry, ac am eu dull o fyw, ac o feddwl, a'u syniadau am y byd y trigent ynddo.

Eithr sut y deuwn i wybod amdanynt. Ni allent ysgrifennu, ac ni ddaeth y syniad o sgrifennu erioed i'w pennau. Amdanom ni, gall pobl y dyfodol pell wybod amdanom oddiwrth y llyfrau, yn llyfrau hanes a phob math arall ar lyfrau, a adewir ar ol gennym, ond amdanynt hwy, ni adawodd yr un ohonynt air yn unman wedi ei sgrifennu i ddywedyd hanes ei genedl. Yn wir, ni feddylient fawr o ddim am y dyfodol, a phe baent yn awyddus i'r dyfodol eu cofio ni wyddent o gwbl sut i gadw eu hanes yn fyw ar gyfer y bobl a ddeuai i'r byd ar eu holau..