Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/15

Gwirwyd y dudalen hon

Ac eto y mae llawer iawn o'u hanes ar gael gennym, a gwyddom yn bur dda erbyn hyn amdanynt hwy a'u harferion a'u credo. Sut y daethom i wybod hynny?

Un ffordd yw chwilio'r ddaear am olion ohonynt, trwy durio mewn lleoedd tebygol o ddyfod o hyd i'w holion yno. Daethpwyd o hyd i'w harfau, a'u hofferynnau gwaith, a'u beddau, a'u cartrefi yn y dull hwn. Dro'n ôl gwahoddwyd fi gan gyfaill i fynd i geibio i goed Cororion, Tregarth, am olion un ran o'r hen Gymry. Aethom i'r coed hynny, y naill â'i raw a'r llall â'i gaib ar ei ysgwydd. Ni welid dim i ddangos bod yr hen Gymry erioed wedi byw yn agos i'r fan. Ond yr oedd fy. nghyfaill yn ŵr cyfarwydd. Toc, sylwodd ar ddarn o dir yng nghanol y coed oedd wedi mynd yn siglen a heb bren yn tyfu arno,—rhyw ddarn o dir ychydig o lathenni