Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/16

Gwirwyd y dudalen hon

ar ei draws. Sylwodd ar drwyn carreg o'r ddaear yn un pen iddo, ac wrth chwilio daeth trwyn carreg arall i'r golwg yn y pen arall, ac wrth chwilio mwy gwelwyd bod y cerryg hyn yn ffurfio cylch lled grwn.

"Dyma wàl y tŷ," ebe'r cyfaill, "y mae'r aelwyd rywle yn y canol."

A dyna ddechreu ceibio, heb fod dim mwy i'n calonogi na phe chwiliem am aelwyd ar y ffordd fawr. Ond dal ati a wnaethom. Wedi dyfod i ganol y darn tir, dyna daro carreg, ac yna dechreuasom chwalu'r tir yn fwy gofalus. Beth oedd yno ond carreg lydan wastad ar lawr, ac arni garreg gron gymaint a phen. Dyna ni wedi dyfod o hyd i felin yr hen Gymry, wedi cael llonydd yno ers dwy fil a hanner o flynyddoedd. Eu dull hwy o falu yd oedd ei roddi ar y garreg wastad hon a'i guro â'r garreg gron. Aethom ymlaen yn ofalus,