Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/20

Gwirwyd y dudalen hon

Y Tylwyth Teg.

DULL arall o ddyfod o hyd i'w hanes yw gwrando ar hen draddodiadau sydd wedi eu hadrodd o genhedlaeth i genhedlaeth ers oesoedd, yn enwedig traddodiadau am fodau nad ydynt yn y byd yn awr, megis tylwyth teg a chewri. Nid dychymyg gwag pobl a roddodd fod i'r tylwyth teg a'r cewri. Buont yng Nghymru unwaith, ond bod y stori sydd gennym amdanynt dipyn yn wahanol i fel y digwyddodd. Yn ymyl y coed y soniais amdanynt y mae llyn dwfr, ac y mae amryw draddodiadau gan hen bobl yr ardal am y llyn hwnnw,—llyn Cororion. Dywedir bod bachgen o fugail unwaith yn bugeilio defaid yn ymyl y llyn, ac iddo weld merch ieuanc—un o'r tylwyth