Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/43

Gwirwyd y dudalen hon

Dyma i chwi dipyn o gymysgedd mewn teulu, onide?—Bran a Branwen yn blant i Lŷr ac Iwerydd; Manawyddan yn fab i Lŷr a Phenardim; a Nisien ac Efnisien yn feibion i Benardim ac Euroswydd. Ymdrech fel y cofiwch yw hyn i wneuthur un teulu o'r hen dduwiau hyn i gyd. Duw casineb oedd Efnisien, a Nisien yn dduw cariad a chymod. Yn y stori fel y daeth i lawr i ni, dywedir am Nisien ei fod yn dda, yn peri tangnefedd rhwng ei deulu pan fyddent lidiocaf. Nid oedd llid yn bod cyn gryfed a'i allu ef i dangnefeddu. Hollol groes oedd cymeriad Efnisien, medrai ef ennyn llid a chynhyrchu ymladd rhwng y ddau frawd mwyaf caruaidd. Gwelwch felly nad ydym ymhell o'n lle pan ddywedwn mai hen dduw casineb oedd Efnisien, ac mai hen dduw cariad oedd Nisien cyn eu gwneuthur gan yr hen Gymry yn dywysogion Cymreig.