Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/50

Gwirwyd y dudalen hon

Llid Efnisien.

O'R diwedd dyna ddechreu ar y wledd briodas yn Aberffraw. Ac yma cewch awgrym nad dyn a brenin oedd Bendigaid Fran i ddechreu, ond duw. Ni chynhaliwyd y wledd mewn tŷ o gwbl, ond mewn pebyll. Ni allai Bendigaid Fran fynd i'r un tŷ,—yr oedd yn rhy fawr i'r un tŷ ei gynnwys. Dyna ddangos i chwi fod rhai o'i nodweddion pan edrychid arno fel duw yn glynu wrtho o hyd. Cewch weled rhai eraill tebyg cyn bo hir. Fel hyn yr eisteddent, meddir, wrth fwrdd y wledd, Bendigaid Fran brenin Ynys y Cedyrn, a Manawyddan fab Llŷr, ar un tu, a Matholwch brenin Iwerddon ar y tu arall, a Branwen yn ei ochr. Dal i