Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/72

Gwirwyd y dudalen hon

ac yn dyrchafu ymhob lle, ac yn cadarnhau yn y man y bônt yn wŷr ac arfau goreu a welodd neb."

Beth a wnawn ni o ryw stori fel hyn am y gŵr a'r wraig fawr a ddaeth o Iwerddon i'r wlad yma? Yn yr hen fyd ymdrech pob llwyth o bobl oedd olrhain o ble y tarddodd. Ac y mae eu hatebion yn rhyfedd iawn. Dywedai rhai mai o'r arth y tarddasant, eraill mai o'r mochyn, ac eraill o greaduriaid eraill, a hwyrach mai ymdrech yw'r stori hon i esbonio dyfodiad rhyw bobl fawr a chryfion a ddaeth i Gymry o gyfeiriad y môr. A chredid na allai pobl mor rymus lai na bod wedi gorchfygu hyd yn oed tân ei hun ymysg eu buddugoliaethau eraill. A hwyrach mai hanes gwrhydri rhyw hen dduw yw'r cwbl, ac y credai rhyw bobl mai o'r duw hwnnw y tarddasant, ond bod y gwir esboniad wedi ei golli.