Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/88

Gwirwyd y dudalen hon

ddim ond da i fod rhyngddynt," Ac y mae Matholwch," ebe hwy, "yn rhoddi brenhiniaeth Iwerddon i Wern fab Matholwch,—dy nai dithau fab dy chwaer. A hynny yn dy wydd di, yn lle'r diraddio a fu ar Franwen. Ac yn y lle mynni di, yma neu yn Ynys y Cedyrn, y gorymdeithia Matholwch."

Dyna i chwi ildio gwasaidd, onide? Dengys popeth mai gŵr gwan, llwfr, oedd Matholwch.

Ond ni dderbyniai Bendigaid Fran ei gynnyg,—

"Ie," eb ef, "oni allaf i fy hun gael y frenhiniaeth ni wrandawaf arnoch. Hyd oni ddel amgen cenadwri ni chewch ateb gennyf i."

Addawsant fynd at Fatholwch am well cynnyg. Aethant a gosodasant y peth ger ei fron.