Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/93

Gwirwyd y dudalen hon

"Paham," eb ef, "na ddaw fy nai fab fy chwaer ataf i? Hyd yn oed pe na byddai'n frenin ar Iwerddon da fyddai gennyf fod yn gyfeillgar ag ef."

"Aed yn llawen," ebe Bendigaid Fran. Ac aeth Gwern ato'n llawen.

"I Dduw y dygaf fy nghyffes," eb yntau yn ei feddwl, "annhebyg gan y teulu y gyflafan a wnaf i yr awron."

A chyn i neb yn y tŷ fedru gafael ynddo, cymerodd Wern gerfydd ei draed a lluchiodd ef wysg ei ben i'r tân. Gwelwch o hyd fel y mae duw casineb a duwies cariad—Efnisien a Branwen—mewn brwydr â'i gilydd. Daw hyn i'r golwg drwy holl droeon rhyfedd y stori.

Pan welodd Branwen hyn ceisiodd fwrw naid i'r tân o'r lle yr oedd, rhwng ei