Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/108

Gwirwyd y dudalen hon

i mi gael arian. O'r blaen, fyddwn i ddim yn mynd yno am fod i bethe fo dipyn yn ddrud, er eu bod nhw yn dda iawn, mae'n siwr. Deyd yr oedd o hefyd fy mod i wedi cofio fy hen gyfeillion a dangos fy mharch tuag atyn nhw. Wel, do, ac mi faswn yn fy nghyfri fy hun yn rhyw gadi ffan garw petaswn i yn eu hangofio nhw, welwch chi. Mi fuon yn eitha ffrindie i mi, a pheidio â son am ambell i ffrae o dro i dro, ar hyd y blynydde, cyn i mi drwy lwc ddwad yn ddigon o ddyn i gael ffrindie erill. Ond er mod i wedi cael rhai newyddion, peidiwch a meddwl mod i am dawlu'r hen rai heibio, chwaith. Na, rydw i am gofio mai hen chwarelwr oeddwn i cyn fy ngeni, fel tase, ac mai dyna fydda i ar ol fy nghladdu hefyd. Deyd yr oedd Mr. Jones hefyd fy mod i wedi prynu tŷ yn y dref a chefnogi masnach gartref hefyd. Wel, mae hynny yn wir, os oes rhyw ddaioni ynddo. Well gen i fyw yma nag yn unman arall, am y rheswm nad wn i fawr am unlle ond yma; ac am fasnach gartre, wel, fel y deydis i o'r blaen, mae gen i rwan ddigon o fodd i dalu chwaneg i Mr. Jones am bethe, os ydyn nhw yn wir yn well na phethe rhatach. Fydda i yn meddwl ond ychydig o'r bobol yma sy'n mynd a'u harian i ffwrdd i'w gwario, ac 'rydw i yn gobeithio y bydd siopwrs y dref yma o hyn allan yn cadw stwff cartre—yn enwedig brethyn—yn lle rhyw stwff sal o rywle o Loegr ne ryw wlad arall. Os oeddwn i yn i ddallt o yn iawn,