Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/14

Gwirwyd y dudalen hon

gic olaf am byth â'i draed ol. "Lle mae——." Cyn i fy mrawd gael gorffen, yr oedd Twrc yn ein hymyl eilwaith, a thwrch daear arall gerfydd ei gynffon ganddo!

"Dyna ti!" ebr fy mrawd. "Clywodd fi 'n gofyn iti—'Be ddeydais i wrth y ci?—Twrc?—Twrc?—Twrch! onide?' "

Gyda'r gair, rhoes y ci ysgeg i'r ail dwrch, ac ymaith âg ef eto, ond galwodd fy mrawd arno.

"Dyna ddigon!" meddai, a gorweddodd Twrc ar lawr.

Buom yn ddistaw am ennyd, ac yna dechreuodd fy mrawd drachefn.

"Ddeydais i hanes o a'r mochyn wrthyt ti? Naddo? Wel, yr oedd gynnon ni ryw hen fochyn y llynedd, callach na'r cyffredin o foch. Un go dila oedd o ar ddechre 'i yrfa, y salaf o'r torllwyth, felly. Pan oedd y lleill yn barod i'w gwerthu, 'doedd fawr o lewyrch arno fo, 'Chwerwyn,' fel y byddem yn i alw. Felly, cadwyd o i'w besgi, os oedd pesgi arno. Bwytaodd beth cynddeiriog, ac o'r diwedd, pesgodd. 'Roedd rhyw elyniaeth naturiol rhyngddo â Thwrc ar hyd yr amser, am ryw reswm neu gilydd. Byddent yn ymladd weithie, ac wrth gwrs, 'doedd gan Chwerwyn fawr o siawns yn erbyn Twrc. Gwaedwyd i glustie lawer gwaith yn yr ysgarmes. Un tro, sut bynnag, digwyddodd lwc i'r hen fochyn. 'Roedd hi 'n ddiwrnod poeth arswydus yn yr haf. 'Roedd hi mor boeth ganol dydd fel y bu