Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/38

Gwirwyd y dudalen hon

Ac eto, nid oedd neb wedi dyfod i'r tŷ, na swn neb i'w glywed o gwmpas.

Gallesid meddwl nad oedd neb yn byw yno, er fod yn y lle ddodrefn derw da a glân, ac olion ddigon fod rhywun yn preswylio yn y bwthyn. Yr oedd hyd yn oed y tegell yn canu ar y tân a'r gath yn canu ar yr aelwyd, y naill a'r llall yn ddu ac yn canu yn y gwres.

Pa beth a ddaethai o'r trigolion? Yr oedd Morris yno ers awr bellach, ac yn cysgu yn braf o hyd, gan anadlu'n drwm ac yn rheolaidd. Yr oedd y lle wedi mynd yn dywyll erbyn hynny. Disgynnai tipyn o oleuni gwan o'r tân ar lawr, lle'r oedd y gath yn cysgu ac yn canu, ond yr oedd Morris yn y cysgod, fel nad allasai neb ei weled heb oleuo cannwyll neu rywbeth arall. Ac yr oedd yn cysgu yn drwm o hyd.

Yn sydyn, daeth rhywun drwy'r penwar ac i fyny'r llwybr at y drws. A daeth i mewn i'r tŷ heb guro ar y drws na dim arall, ỳn union fel y gwnaeth Morris.

Dynes ieuanc ydoedd, a barnu wrth ei ffurf a'i cherdded.

Daeth i mewn i ganol y tŷ, edrychodd o'i chwmpas, yn enwedig ar y tân, ac yna, tynnodd ei het oddi am ei phen, gan ryw fwmian canu yn isel. Dododd yr het o'r neilldu ar y dresel dderw oedd gyferbyn â'r drws. Yr oedd goleuni gwan y dydd wrth ddarfod yn disgyn ar y fan honno drwy'r drws agored nes ei wneud yn ddigon goleu iddi weled pa beth yr oedd yn ei wneud.