Gwirwyd y dudalen hon
hyn. Yr oedd ei leferydd wedi mynd yn aneglur, ond tybiodd y meddyg ei fod yn dywedyd rhywbeth tebig i "go—go—god," a meddyliodd y byddai yn well i'r offeiriad geisio deall y claf. Dywedodd wrth hwnnw am geisio.
Plygodd yr offeiriad i lawr a gofynnodd yn garedig i'r Sais Mawr pa beth a fynnai. Ac yna daeth llewyrch rhyfedd i lygad y Sais, a chlywodd y ddau ef yn sibrwd —
"Thlanvairpoolgwynhillgogherikhwirndroboolthlantissiliogogogock!"
A dyna air olaf y gwr mawr hwnnw.