Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/98

Gwirwyd y dudalen hon

gan ei chadw mewn golwg o hyd. Wrth fynd o'r capel gwnai yr un modd, a phrynhawn a hwyr yr un fath. Newidiodd ei sedd yn y capel er mwyn cael lle mwy manteisiol i'w gweled hi yno, Weithiau, byddai Miss Jenkins yn esgeuluso mynd i'r capel ar fore Sul, a'r prydiau hynny, deuai Dico i'r gwasanaeth yn hwyr bob amser, wedi bod yn disgwyl nes ei mynd mor hwyr fel y byddai'n sicr nad oedd Miss Jenkins yn dyfod.

Cyn hir aeth Miss Jenkins i berthyn i'r côr, ac felly cafodd Dico un cyfle yn rhagor i'w gweled. Gwyliai hi a chanlynai ar ei hol yr un fath wrth fynd a dyfod ar yr achlysuron hynny hefyd. Aeth hyn ymlaen am rai wythnosau os nad misoedd heb i neb sylwi arno, er fod yr eneth ei hun wedi sylwi fod Dico bob amser yn cerdded ar ei hol pan fyddai hi yn mynd i'w chinio a phan fyddai'n mynd i'r capel neu i'r cyfarfod canu. Yr oedd arni radd o'i ofn ar y dechreu, ond gan ei fod yn edrych yn beth mor ddiniwed ac na ddywedodd air wrthi erioed, ni chymerodd ragor o sylw o hono, a thybiodd hwyrach mai damwain oedd ei fod yn cerdded ar ei hol. Wrth weled hynny yn digwydd mor hir ac mor gyson, meddyliodd am holi pwy oedd Dico, ond gadael iddo a wnaeth.

Gan fod Miss Jenkins yn eneth mor hardd, yr oedd ganddi ddigon o edmygwyr yn y dref yn fuan, ac yr oedd agos bob dyn ieuanc oedd yn perthyn i'r capel