Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y'Nghymru, ac yn gorwedd yn well hyd yn oed na'r rhai a welir yn ardal Telmarc y'ngwlad y Norwegiaid. Yn wir, yr oedd y gŵn megis wedi tyfu yn naturiol o'r wasg i wared, fel gŵn Twrcomanes; yr hyn a ddyry ar ddeall nad oedd neb o'r llancesi yn ddigon llygredig eu chwaeth i wisgo crwmp a thindres Groegaidd-pe Groegaidd hefyd. Sidan oedd defnydd yr hosanau; ac nid oedd yr esgidiau yn cuddio y rhai hyn ddim uwch na gwaelod y fferau.

Ti a elli yn hawdd ddyfalu, ddarllenydd, fod y meibion a'r merched yn y gwisgoedd hyn yn ymddangos yn llai cyffredin o lawer na meibion. a merched ein hoes ni yn y wlad Biwritanaidd hon.

Ond os oeddynt yn fwy dillyn eu gwisg a'u gwedd, nid oeddynt cyn falched nac mor afled- nais. Yr oeddynt yn gweled ereill mor drwsiadus a theg yr olwg fel nad oeddynt yn cael dim hamdden i genfigennu wrth ei gilydd, nac ychwaith yn cael achos i ddiolch i Dduw am ddarfod eu gwneuthur a'u gwisgo hwy gymmaint amgenach nag ereill. Yr oedd yn amlwg eu bod hwy yn gallu gwneyd yr hyn nad all y rhan fwyaf o Gymry yr oes hon mo'i wneyd: sef anghofio'u hunain am awr neu ddwy.

Y mae yn rhyfedd nad oes gan y Cymry ddim un gair Cymreig dilwgr i ddynodi eu bai pennaf; aa hynny, pan fyddys yn gofyn pa beth ydyw eu pechod cenedlaethol, rhaid atteb mai cysêt." Ynglŷn â hwn y mae dau fai sy'n ymddangos yn anghyson ag ef, ac, yn wir, yn anghyson â'u gilydd hefyd: sef digywilydd-dra ceffylaidd, ac yswildra mulaidd.