Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

athrawon yr Ysgol Blwyfol pob prydnawn dydd. Iau i wasanaethyddion y plwyf ar Hanes Cymru, a Hanes yr Eglwys Gatholig—y ddau hanes mwyaf buddiol a dyddorol o bob hanes i'r Cymro Catholig, a'r rhai, o'u trin yn llwyr, sy'n cynnwys y rhan bwysicaf o hanes y byd.

Mi a wybûm rywfodd fod hanner gweinidogion y tai cyffredin, y plasau, y ffermydd a'r siopau, yn cael hanner diwrnod o ollyngdod unwaith bob wythnos, a phawb felly yn ei gael ef bob pythefnos; ac yr oedd blaenoriaid yr Undeb Cymreig Catholig er ys talm cyn hyn wedi manteisio ar yr ŵyl hon i oleuo'r dosparth lleiaf eu dysg y'nghylch eu cenedl a'u crefydd.

I'r Undeb hwn, fel y canfyddir yn y man, yr oedd ar Gymru fwyaf o ddiolch am gael ei rhyddhau o'r diwedd oddiwrth ddylanwad mall y sectau, y rhai, o blegid eu cenfigen tuag at eu gilydd, a fuasent yn cydymdrechu i'w darnio ac i'w Seisnigeiddio hi. Ac efe, trwy gadw iaith. a phriodolion ereill cenedl y Cymry, a'i galluogodd hii hawlio ei hannibyniaeth, pan y daeth ymwared y cenhedloedd caethion yn amser y Chwyldroad Cyffredinol.

Nid oes achos dyweyd nemmor am y darlithiwr heb law mai gwisg lleygwr oedd am dano, a'i fod yn ymddangos tua deugain mlwydd oed. Yr oedd yn amlwg mai Gwyneddwr oedd efe, o blegid yr oedd yn hoffach ganddo o lawer y llythyren a na'r e; eithr am resymau y gall y darllenydd eu dyfalu, e ac nid a a arferai efe yn lle ai yn nherfyn berfau, megis bydde, buase, neu byse. Yn gyt— tunol â deddfau sain a hen arfer gwlad, efe a droai ddwysain ddi—acen yn unsain, oddi eithr o flaen unsain ogyffelyb, megis petha, amma,