Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

addo, anga, enad, santadd, ydi; eithr pethau-annelwig, ammau-amryw, addaw-oen, angau- anghynnes, ydiw-un.

Er mwyn rhugledd, ni seiniai efe mo'r f derfynnol o flaen cydsain gair dilynnol; ac ydwi, cymmerai a ddywedai efe am ydwyfi, cymmerafi, yn ôl annogaeth ac esiampl Edward Lhuyd; ie, mi a sylwais ei fod yn gadael dd hefyd allan rhwng r a chydsain ddilynnol; megis fforr fawr, bwrr crwn, yn lle ffordd fawr, bwrdd crwn. mwyn byrder, ac yn gyttunol â'r arfer yn Llydaw, Cernyw, a rhai rhannau o Gymru, efe a adawai allan yr a yn nherfyniadau berfau, ar ôl y llythyrennau tawdd l, m, n, r; megis talse, llamse, cymmerse, yn lle yn lle talasai, llamasai, canse, canasai, cymerasai.

Er mwyn dilyn arfer gwlad, ac er mwyn eglurder hefyd, efe a arferai ragenw bob amser ar ôl berf, pan na byddai rhagenw o'i blaen hi, eithr pan na byddai y rhagenw ddim yn or-bwysig efe a gyssylltai y rhagenw â'r ferf; megis, a welis- ti, y bydd-o (rhag ei seinio yn byddo). Yn lle ef ac efe, efe a arferai fo, neu o ac y fo; yr un ffunud chi ac y chi, yn lle chwi a chwychwi; nhw neu nw, ac y nhw, yn lle hwy a hwynt-hwy; er fod chi yn enwedig yn ymddangos i mi yn bur anghymmeradwy.

Yn gyffredin, efe a droai hanner sill yn sill; megis, brwydyr, magal, yn lle brwydr, magl; eithr weithiau efe a fwriai yr hanner sill allan, gan ddywedyd ffenest, chwibanog, yn lle ffenestr, chwibanogl. Ond ofer a fyddai i mi ymdroi i ddangos yr holl wahaniaethau rhwng Cymraeg y flwyddyn 2012 a Chymraeg argraffedig y dyddiau hyn; am y gall y darllenydd ei hun sylwi arnynt yn y ddarlith yr wyf ar fedr ei