Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid doeth gan hynny, na gweddus chwaith, ydyw i ddysgawdwr frysio i dderbyn gair estronol a gipiwyd i fyny gan boblach sydd naill ai yn rhy analluog neu ynte yn rhy ddiog i chwilio am air brodorol. Chwareu teg i werin Cymru, y mae hi cyn barotted i groesawu gair Cymreig da, a gyflwyner iddi yn brydlon, ag ydyw hi i groesawu gair Seisnig, neu air Seisnigaidd. Y mae yn naturiol i mi, sy'n ddisgybl i Newman, gredu fod iaith fel pob peth arall yn ymddadblygu; ond arwyddion o ymddatodiad ac nid o ymddadblygiad ydyw geiriau anwes" bechgyn mawr Cymru Fydd." Y mae gennyf fi barch i'r deddfau sy'n llyfnu iaith, eithr nid i'r mympwyon sy'n ei llygru hi.

Gyd â llaw, fe ddechreuwyd arfer yr enw Cymru Fydd gan Gymro rhy Gymroaidd i fod yn aelod o'r Gymdeithas a elwir felly.

[Mr. Golygydd, os cwyna rhywun wrthych nad wyf fi yn breuddwydio yn ddigon iawngred, dywedwch wrtho mai "Cylchgrawn Cenedlaethol," ac nid un sectol, nac Ymneillduol, na Phrotestanaidd chwaith, ydyw Y GENINEN. Os caniatawyd i aelod o'r sect Esgobyddol hon a'r sect Ymneillduol arall draethu ei ddewis chwedl ynddi, pa ham y gwarafunir i aelod o'r Unig Wir Eglwys adrodd ei freuddwyd ynddi? Chwithig o beth a fyddai i'r bobl a aethant cyn belled â Lloegr i chwilio am Undodiad o Sais i'w cynrychioli yn y Senedd, ymgodi yn fy erbyn i, sy'n Gymro ac yn Gristion.]

Mi a ddywedais y cyhoeddwn yr araith, a glywais yn fy mreuddwyd, yn seiniadol, hyd y gellid gwneyd hynny â'r llythyrennau sydd yn awr ar arfer. Wrth hynny, nid oeddwn yn