Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddwl chwanegu at y lliaws o gynnygion a wnaed yn ddiweddar i ddiwygio yr orgraff, ond yn unig ddangos, mewn ffordd o lythyrennu ag oedd gynt yn gyffredin, pa fodd yr oedd areithiwr o Gymro yn llefaru Cymraeg yn y flwyddyn 2012; ac nid yw y Cymraeg hwnnw fawr amgen na Chymraeg ymddiddanol yr oes hon, a'r tair neu bedair oes o'r blaen. χ Yn ofer y ceisir dwyn i mewn orgraff olygus a gweddol gysson hyd oni cheir arwyddion syml i ddynodi seiniau syml; megis χ yn lle ch; δ groesog yn lle dd; v yn lle f; f yn lle ff a ph; q yn lle ng; l groesog neu ł Ysbaeneg yn lle ll; z yn lle th; j yn lle i gydseiniol; u yn lle w lafar; y yn lle u; ac ʮ, sef h wrthdroedig, yn lle y fynglyd.

Hyd oni cheir hynny, y mae yn well gennyf fi ymfoddloni ar ddewis un o'r dulliau, neu ynte geisio dwyn o dan drefn a dosparth yr amryw ddulliau gogyffelyb, oedd yn arferedig yn y Dywysogaeth er's rhai oesoedd cyn y Diwygiadi crefyddol o waith y Methodistiaid, a'r Diwygiad ieithol o waith Dr. Puw.

A hyd yn oed pe ceid egwyddor berffaith, ni ellid byth gael orgraff agos i berffaith o ran sain, heb newid a dieithrio ffurf y geiriau yn ddirfawr; canys er y dywed y Dr. Alexander Ellis mai fel cannht yr ydys yn seinio cant, ac mai fel eingh calon, ac yngh credu, yr ydys yn seinio ein calon, ac yn credu; etto nid wyf yn meddwl y gwnâi cariad neb tuag at y dull seiniadol o lythyrennu ei gymmell ef i fod mor annhrugarog o gysson ag i ddolurio llygaid darllenwyr â'r ffurfiau gwrthun hynny. Yr un ffunud, er y dywed y dysgawdwr Rhys mai fel lletty yr ydys yn seinio