Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr enw cyfansawdd lled-ty, ac mai fel lletya yr ydys yn seinio'r ferf darddedig lled-ty-a, etto, gan na ellir dim camseinio y ffurf gyffredin llettya tra y byddo yr accen ar y sill nesaf i'r olaf, y mae yn ymddangos i mi ar hyn o bryd mai gormod o beth a fyddai ychwanegu at anhawsderau ysgrifenwyr cyffredin trwy eu rhwymo i dynnu a rhoi un o'r ddwy t yn ôl deddfau caethaf seiniadaeth. Er hynny, os gwelaf y bydd gwr cyfarwydd a "llawn deugain mlwydd oed" fel Mr. Rhys yn parhau i farnu fod achos digonol am wneuthur hynny o beth, mi a ymostyngaf i'w farn.

Am y llythyren h, pe llythyren hefyd, yr wyf yn bleidiol i dynnu a rhoi honno, am y rheswm eglur fod yn hawdd i'r tewaf ei glust wybod pa bryd yr ydys yn ei seinio hi, a pha bryd nad ydys yn ei seinio. Yr wyf hefyd, o barch i ddeddfau sain a hen arfer, yn erbyn dyblu yr m, n ac ng o flaen h; ac er mwyn gwneyd sillebu yn beth haws, yr wyf, yn ôl esiampl Dr. William Morgan, ac eraill o'i flaen ac ar ei ôl, yn tynnu allan yr ail gydsain, ac nid y flaenaf; ac yn ôl arfer ambell un o'r rhai gynt" yn dodi yr h ar ôl yr l a'r r, ac nid o'u blaen, gan ddywedyd cymmorth, cymhorthi, ym'horth; annrugarog, anrhugar, yn'rhugaredd; angrediniur, angrhedu, yng'rhed.

Gan nad pa orgraff a ddewiso dyn, rhaid iddo ymddygymmod â lliaws o eithriadau. Nid rhwng orgraff amherffaith ac orgraff berffaith y rhaid dewis, eithr rhwng orgraff amherffaith a'r un leiaf amherffaith.

I, yn, ych ac u oedd ansoddeiriau rhagenwol y darlithiwr a glywais i yn llefaru; er hynny,