Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhag gwneyd ei ddarlith yn rhy annarllenadwy i Gymry yr oes hon, ysgrifennu a wneuthum ei, ein, eich ac eu, yn ôl yr arfer gyffredin. Am yr un achos, ni throais mo'r ae yn ay, na'r oe yn oy neu yn ou yn y fath eiriau â maen, moes, a moelyn.

Rhag cuddio gwreiddyn neu fôn gair, yr wyf yn ymattal rhag dangos dylanwad i ac u ar eu gilydd mewn geiriau o fath eithyr, unig, duwiol, a datguddiad; er y gwn mai eythyr, inig, diwiol, a dadgiddiad ydynt yng ngenau pawb oddi eithr y Phariseaid o lenorion sy'n gofalu mwy am lythyrennau nag am eiriau.

Mi a fynnwn i ychydig o eiriau bach cyffredin fel ar, er, os gael eu cyfrif yn eithriadau i'r rheol sy'n gofyn dyblu rhai cydseiniaid er mwyn dangos sain fer.

Gan fod yr y fynglyd yn fwy neu lai ber ei sain, nid wyf yn dyblu cydsain ar ei hôl hi mewn geiriau cyffredin fel yn, yr, yma, dyma, Cymro, nac mewn geiriau mwy anghyffredin chwaith, pan na byddo dim arall yn y gair ei hun yn gofyn hynny; felly yr wyf yn gwyro oddi wrth y rhai gynt trwy ysgrifennu bysedd, &c., ac nid byssedd, &c.

Mi a ddywedais mai Gwyneddwr oedd y darlithiwr, am fod yn hoffach ganddo yr a na'r e. Erbyn hyn yr wyf yn teimlo fod fy rheswm am dybied hynny yn rhy wan, am y gallasai y gŵr yn hawdd arfer yr a o ddewisiad, neu ynte am fod llediaith Gwynedd erbyn ei amser ef wedi gorfod ar ledieithoedd y taleithiau ereill.

Gan nad beth am hynny, nid Cymraeg plwyfol mo'i Gymraeg ef; ac, yn wir, o'r braidd y gellir dyweyd ei fod yn Gymraeg taleithiol chwaith;