Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sylwada, y waith honn, yn debyccach i gofres nag i ddarlith; ond yn y darlithiau a ddaw, mi a ymdriniaf yn bur helaeth â'r pyngcia ag yr ydwi yn awr yn cyffwrdd yn unig â nw.

Fe ellir priodoli cwymp Protestaniath yn y Dywysogath mewn rhann i achosion cyffredinol, ac mewn rhann i achosion neilltuol. O blith yr achosion cyffredinol a ddylanwadodd ar bob gwlad, odid na bydd yn ddigon imi heddiw enwi hwnn yma: sef cynnydd gwybodath y werin, yn enwedig mewn rhesymeg ac mewn hanesyddiath.

Ni fynnwn i ddim rhoi ar ddyall nad oedd y dosparth dyscediccaf o'r Protestanied yn yr oesodd o'r blaen yn gwybod rheola rhesymeg cystal â chitha; ond o blegid rhagfarn ne ddi-ofalwch, ne riwbeth, ni fyddenw byth yn cymhwyso'u rhesymeg at y grefydd Brotestanadd. Pe bysenw'n meddwl yn ddwys ac yn ddiragfarn, ïe, am hanner awr yn unig, nw a welsen mai Protestaniath ydi'r gwrthunbeth anghyssonaf y clywyd erioed sôn am dano.